Lladrad arfog mewn bwyty Indiaidd

Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am wybodaeth wedi lladrad arfog ym mwyty'r Shahi Tandoori ar Ffordd Trallwn, Llansamlet.

Fe ddigwyddodd tua 10:45pm ddydd Iau, Tachwedd 15.

Mae'n debyg fod dyn â gŵn llaw yn ei feddiant wedi mynd i mewn i'r bwyty ac wedi bygwth aelod staff a mynnu arian.

Cafodd swm o arian ei gymryd o'r til a'i roi i'r lleidr.

Doedd yr aelod staff ddim wedi ei anafu ond roedd mewn sioc wedi'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu fod y lleidr yn 5 troedfedd 7 modfedd o daldra, o faint canolig, yn gwisgo top du â chwfl a mwgwd Calan Gaeaf plastig du gyda lliw gwyn o amgylch y llygaid, trwyn a'r bochau.

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Darren George: "Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ac rwy'n apelio ar i unrhyw un oedd yn ardal y Shar Tandoori tua 10:45pm nos Fercher ac a welodd y lladrad i gysylltu.

"Funudau wedi'r lladrad gwelwyd car Vauxhall Vectra lliw aur yn cael ei yrru'n gyflym o'r safle ar hyd Ffordd Trallwn tuag at gyfeiriad Ffordd Peniel Green.

"Byddwn yn annog unrhyw un all roi gwybodaeth am y car, neu a welodd y car cyn neu ar ôl y digwyddiad, i gysylltu â ni ar frys.

"Hoffwn sicrhau trigolion Trallwn fod digwyddiadau fel hyn yn brin iawn yn yr ardal a'n bod yn gwneud popeth posib i geisio dal y dyn."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.