BBC Cymru Fyw

Y Post Brenhinol yn agor canolfan newydd dros y Nadolig

Published
image copyrightGetty Images
image captionMae'r cyfnod cyn y Nadolig yn draddodiadol yn brysur iawn i'r Post Brenhinol
Gyda mwy a mwy o bobl yn siopa ar-lein, mae'r Post Brenhinol wedi agor canolfan ddidoli parseli ger Port Talbot dros gyfnod y Nadolig.
Mae'n cael ei hagor ddydd Gwener ac mae'n un o wyth canolfan mae'r cwmni yn eu hagor ar draws y DU.
Ac mae disgwyl i'r ganolfan ddelio â dros 289,000 o barseli ar y dyddiau prysuraf.
Fis diwetha' cyhoeddodd Amazon eu bod yn recriwtio dros 1,000 o staff dros-dro yn eu canolfan ddosbarthu ger Abertawe.
Mae canolfan newydd y Post Brenhinol yn cael ei hagor ar Stad Ddiwydiannol Baglan.
Dywedodd y cwmni y byddai'r canolfannau ychwanegol yn "delio â'r cynnydd mawr yn nifer y parseli wrth i nifer cynyddol o bobl siopa ar-lein."
Yn ôl Mark Higson, rheolwr gyfarwyddwr gyda'r cwmni: "Mae'r Post Brenhinol wedi buddsoddi mewn wyth canolfan ddidoli er mwyn i ni allu bod yn fwy hyblyg ar adeg mor bwysig i'n cwsmeriaid."
Mae'r canolfannau eraill yng Nghaeredin, Glasgow, Bolton, Tamworth, Peterborough, Swindon a Greenford yn Llundain.

Straeon perthnasol

  • Cyfnod arbennig i swyddfa bost