Codi arian ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen
- Published
Mae bron £1.3m wedi ei godi yng Nghymru ar ddiwrnod Plant Mewn Angen.
Dywedodd Pennaeth Plant mewn Angen, Marc Philips: "Mae hyn yn swm rhyfeddol ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar i bawb sy' wedi cyfrannu."
Y digwyddiad mwyaf yng Nghymru oedd cyngerdd mawreddog yn Arena'r Motorpoint yng Nghaerdydd nos Wener ble oedd côr o 1,000 o leisiau pobl ifanc o siroedd y de.
Roedden nhw'n canu gyda seren y West End, John Owen-Jones, a'r soprano ifanc, Gwawr Edwards.
Yn ystod y dydd roedd gweithgareddau mewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedau.
Dyma ambell enghraifft:
•Charlie, saith oed, yn seiclo 50 milltir o Gaer i Landudno;
•Irene Winn o'r Waun yn torri ei gwallt oedd yn estyn at ei chanol;
•Rajoo yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn lliwio ei farf yn felyn fel teyrnged i Pudsey;
•Jason Bray a Mike Clement o Western Power Distribution yn treulio 48 awr ar ben polyn trydan 15m o uchder yn Abertawe;
•Canolfan Hamdden Llanelli yn trefnu cystadleuaeth Zumbathon v Rowathon
•Anthony Toye yn gwisgo fel Siôn Corn bob dydd am wythnos;
•Sawl cystadleuaeth bwyta chili yn cael eu cynnal, ynghyd â thunelli o gacennau a bisgedi, oriau o ddistawrwydd noddedig, llwythi o wacsio ac eillio pennau, a milltiroedd o deithiau cerdded, a phrofion ffitrwydd.
Er mwyn cyfrannu gallwch ffonio 0345 733 22 33 neu ewch i'r wefan bbc.co.uk/cymru/pudsey.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Tachwedd 2010
- Published
- 15 Tachwedd 2008