BBC Cymru Fyw

Her yn wynebu Justin Tipuric

Published
image captionMae Tipuric yn un o wyth newid i'r tîm gollodd 26-12 i'r Ariannin
Mae Justin Tipuric wedi dweud y bydd yn anodd iddo ddisodli capten Cymru Sam Warburton yn nhîm rygbi Cymru yn y pen draw.
Tipuric yw'r blaenasgellwr agored yn y gêm brawf rhwng Cymru a Gorllewin Samoa yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener.
Mae'r dyn 23 oed yn un o wyth newid i'r tîm gollodd 26-12 i'r Ariannin ddydd Sadwrn diwethaf.
Yn y cyfamser, mae Warburton, fydd ar y fainc nos Wener, wedi cyfaddef nad yw wedi bod ar ei orau y tymor hwn.

Y Crysau Duon

Gallai perfformiad da Tipuric olygu y bydd yn cadw ei le yn erbyn Seland Newydd nos Sadwrn nesaf.
Mae Dan Biggar, Ashley Beck, Bradley Davies a Richard Hibbard, wedi cael cyfle i greu argraff cyn y gêm yn erbyn y Crysau Duon.
"Mae Sam yn chwaraewr dawnus ac fe fydd yn anodd i fi gadw fy lle ond fe fydda i'n ceisio gwneud fy ngorau dros y tîm," meddai Tipuric sy'n chwarae dros ei wlad am yr wythfed tro.
"Mae'r hyfforddiant wedi bod yn anodd ar ôl colli i'r Ariannin ond rydyn ni'n barod am fygythiad corfforol Gorllewin Samoa."
Gan fod Warburton ar y fainc, Ryan Jones yw'r capten.
Mae'r canolwr Jamie Roberts yn y tîm ar ôl gwella o ergyd i'w ben yn erbyn yr Ariannin.
CYMRU: L Halfpenny (Gleision); A Cuthbert (Gleision), A Beck (Gweilch), J Roberts (Gleision), G North (Scarlets); D Biggar (Gweilch), M Phillips (Bayonne); P James (Bath), R Hibbard (Gweilch), A Jarvis (Gweilch), B Davies (Gleision), I Evans (Gweilch), R Jones (Gweilch, capt), J Tipuric (Gweilch), T Faletau (Dreigiau).
Eilyddion: K Owens (Scarlets), G Jenkins (Toulon), S Andrews (Gleision), L Charteris (Perpignan), S Warburton (Gleision), T Knoyle (Scarlets), R Priestland (Scarlets), S Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol

  • Alun Wyn Jones angen llawdriniaeth ar ei ysgwydd