Sillafu anghywir: Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro

Yr arwydd ger Pont Britannia Image copyright Daily Post
Image caption Dywed Cyngor Gwynedd y bydd y gwaith o gywiro'r camgymeriad yn digwydd "cyn gynted â phosib"

Mae swyddogion cyngor sir wedi ymddiheuro ar ôl i Gaernarfon gael ei sillafu yn anghywir ar arwydd ffordd newydd.

Dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod yn gyfrifol am sillafu Caernarfon gyda'r llythyren 'v' yn lle 'f' ar yr arwydd ger Pont Britannia.

Cyfaddefodd yr awdurdod lleol y dylai fod wedi gwirio'r sillafu cyn i'r arwydd gael ei osod a byddai'r arwydd yn cael ei newid maes o law.

Dywedodd AC Arfon, Alun Ffred Jones, fod y camgymeriad yn "un chwerthinllyd".

"Mae'n 40 mlynedd ers i'r enw Cymraeg cywir, Caernarfon, gymryd lle 'Caernarvon' fel unig enw swyddogol y dref.

"Mae'n anhygoel fod yr enw Saesneg wedi ei atgyfodi ar ôl yr holl flynyddoedd hyn ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdani.

"Mae hwn yn gamgymeriad chwerthinllyd ar ran rhywun a dylai gael ei gywiro ar unwaith."

'Cyfrifoldeb'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Gallwn gadarnhau mai Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am osod yr arwydd ffordd newydd ac rydym yn ymddiheuro am beidio gwirio'r geiriad ymlaen llaw.

"Rydym wedi cysylltu â chynhyrchwyr yr arwydd ac maen nhw'n ymwybodol o'r camgymeriad ac wedi derbyn y cyfrifoldeb."

Bydd y gwaith o gywiro'r camgymeriad hwn yn digwydd "cyn gynted â phosib", meddai'r llefarydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.