Facebook yn ymchwilio i arwydd siop Facefood yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Facebook yn ymchwilio i'r defnydd o arwydd ar siop yng Nghaerdydd.
Mae'r arwydd ar siop Facefood yn ardal Y Rhath yn newydd ac yn debyg i logo'r wefan gymdeithasol.
Dywedodd rheolwr y siop bod nifer o bobl yn tynnu lluniau y tu allan i'r siop sy'n gwerthu diodydd a theisennau.
Cadarnhaodd na wnaeth ei fusnes gysylltu gyda'r wefan.
Fe wnaeth Facefood agor yn gynharach yr wythnos yma ar Heol y Ddinas ac mae 'na sylwadau diddorol ar wefan Facebook ei hun a Twitter.
Mae'r rheolwr, Samir Bougaci, yn dod yn wreiddiol o Algeria.
"Dydan ni ddim wedi siarad gyda Facebook a dydan ni ddim wedi clywed ganddyn nhw chwaith," meddai.
Dywedodd nad ydi o a'i bartner busnes yn credu y bydd 'na unrhyw oblygiadau am fabwysiadu'r cynllun.
Mae'n dweud iddo glywed am siopau amrywiol ar hyd y byd gydag arwyddion tebyg.
Mae siopau gyda'r enw Facefood mewn gwledydd fel America, Yr Aifft, Ffrainc, Syria a'r Almaen yn defnyddio logo tebyg.
"Mae'n wahanol i Facebook, mae'n defnyddio geiriau gwahanol," meddai wrth egluro bod y syniad wedi dod ym mis Ionawr a'u bod wedi ei ddatblygu dros y misoedd diwethaf.
"Mae wedi costio lot i gael popeth, gan gynnwys yr arwyddion."
Dywedodd llefarydd ar ran Facebook wrth BBC Cymru eu bod yn ymchwilio ac nad oedden nhw am wneud sylw pellach.