BBC Cymru Fyw

Cau heol wedi damwain yn ardal Brynaman

Published

Mae'r A4069 rhwng Brynaman a Gwauncaegurwen wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad oherwydd damwain yn ymwneud â cherddwr.

Roedd y ddamwain rhwng Heol y Graig (Sgwâr y Waun) a Heol Leyshon ym Mrynaman.

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaethau brys yn ymateb i'r ddamwain ger Clwb Rygbi Cwmgors.

Mae traffig yn drwm yn y cyffiniau.