BBC Cymru Fyw

Achos Bala: Dyn yn y ddalfa

Published
image captionCafodd y stryd ei chau gan yr heddlu wedi'r llofruddiaeth
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth yn Y Bala ddydd Sadwrn wedi bod gerbron Ynadon Caernarfon fore Mercher.
Cafodd Julius Hecko, 23 oed o Slofacia, ei gyhuddo o lofruddio Branislav Gula, 42 oed o'r un wlad, yn Heol Plasse, Y Bala, ddydd Sadwrn.
Nid oedd cais am fechnïaeth a bydd yn y ddalfa tan Ionawr 7.
Mae pedwar arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Williams, sy'n arwain yr ymchwiliad: "Er ein bod wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth, mae ein hymchwiliad yn parhau.
"Hoffwn apelio at unrhyw un yn y gymuned oedd yn dyst i'r hyn arweiniodd at y digwyddiad neu unrhyw un sy'n gallu ein helpu i greu darlun cyflawn ffonio'r heddlu ar 101."
Fe all pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

  • Mwy o amser i holi dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth