Gŵyl i ddathlu cerdd mewn ffilm

Cynulleidfa yn mwynhau’r ŵyl ffilm Image copyright other
Image caption Mae gŵyl Soundtrack yn cael ei chefnogi gan Asiantaeth Ffilmiau Cymru

Mae Gŵyl Ffilm a Cherddoriaeth Rhyngwladol Soundtrack yn "hanfodol" yn ôl yr enillydd Oscar, y cyfarwyddwr Danny Boyle.

Bydd cyfres o ffilmiau a chyngherddau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Chasnewydd rhwng dydd Mercher a dydd Sul i ddathlu'r berthynas rhwng cerddoriaeth a'r sgrin fawr.

Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 2009 gyda chymorth Danny Boyle. Eleni, bydd un o'i gyd-gyfarwyddwyr ar gyfer seremonïau'r Gemau Olympaidd a chyfansoddwr thema James Bond, David Arnold, yn mynychu'r ŵyl.

Bydd y cyfarwyddwr o Baris, Vincent Moon a chyfansoddwr sgoriau ffilmiau Momento a Cabin In The Woods hefyd yn trafod eu gwaith.

Mae gŵyl Soundtrack yn cael ei chefnogi gan Asiantaeth Ffilmiau Cymru.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Pauline Burt, "Mae Soundtrack yn ddigwyddiad unigryw sydd wedi canolbwyntio o'r cychwyn ar dalent o'r byd ffilm a cherddoriaeth gyda naws annibynnol sy'n adnabyddus ledled y byd.

"Mae'r rhaglen eleni wir yn eclectig a bydd yn apelio at gynulleidfa eang sy'n gwerthfawrogi perthynas arbennig rhwng ffilm a cherddoriaeth.

'Campwaith iasol'

"Ond bydd hefyd yn gyfle i'r diwydiant ddod at ei gilydd ar gyfer dosbarthiadau arbennig, paneli a digwyddiadau eraill a fydd yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr ffilmiau a cherddorion yng Nghymru gyfarfod pobl dalentog."

Ychwanegodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Pablo Janczur, "Mae ein tîm wedi cynhyrfu ynghylch ein cydweithrediad gyda Sefydliad Ffilm Prydain a Sonic Cinema i gyflwyno seren y byd cerddoriaeth House i Gaerdydd, sef Fake Blood.

"Bydd o'n perfformio'n fyw ei drac sain i gyd-fynd â champwaith iasol Dario Argento, Suspiria i gloi'r ŵyl."

Bydd y cyfansoddwr David Julyan yn sôn am ei waith gyda'r cyfarwyddwr Christopher Nolan, a David Arnold yn trafod ei waith ar ffilmiau megis Independence Day a Casino Royale.

Bydd hefyd cyfle i weld Kelly + Victor, ffilm gyntaf y cyfarwyddwr o Gymru, Kieran Evans.

Cynhelir cyngherddau, dangosiadau ffilm, sgyrsiau a sesiynau addysgol yr ŵyl mewn lleoliadau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Mae Prifysgol Cymru Casnewydd a Chyngor Casnewydd hefyd am ddarparu digwyddiadau am ddim yn y campws yng nghanol y ddinas.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.