Paul Thorburn yn beirniadu hyfforddwr Cymru Rob Howley

Rob Howley Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Rob Howley o dan bwysau gan rai yn dilyn y golled yn erbyn Yr Ariannin

Mae cyn-gapten rygbi Cymru, Paul Thorburn, wedi beirniadu'r hyfforddwr dros dro Rob Howley am ei dactegau wedi'r golled o 26-12 yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sadwrn.

Dywedodd: "Mae Robert Howley'n cael cyflog da i wella hynt rygbi Cymru.

"Os nad yw'n gallu gwneud hynny, fe ddylai gamu o'r neilltu.

"Dydw i ddim yn credu y dylai hyfforddwyr ar gyflogau da ddechrau beio pobl eraill am ddiffyg perfformiad y tîm."

Dywedodd Thorburn bod dewis y tîm yn iawn, ond bod tactegau Cymru'n anghywir.

"Roedd digon o chwaraewyr da, safonol, i fod wedi cael gêm well," meddai'r cyn-gefnwr a oedd yn gapten Cymru rhwng 1989 a 1991.

"Dydw i ddim yn credu bod symud chwaraewyr o gwmpas yn mynd i gyflawni unrhyw beth os ydyn nhw'n parhau i chwarae'r math o rygbi anghorfforol a wnaethon nhw," ychwanegodd.

Roedd Thorburn yn siarad wrth i Gymru baratoi i geisio osgoi pumed colled yn olynol o dan reolaeth Howley wrth groesawu Samoa i Stadiwm y Mileniwm nos Wener.

Pe bai Cymru'n colli eto, dyna fyddai'r rhediad gwaethaf o golledion ers 2010.

Bydd Howley'n cyhoeddi'r tîm i wynebu Samoa ddydd Mawrth.

Mae'n debyg y bydd newidiadau i'r tîm o ganlyniad i anafiadau i Jamie Roberts ac Alun Wyn Jones yn y gêm yn erbyn Yr Ariannin.

Fe allai canolwr y Scarlets, Jonathan Davies, fod wedi gwella o anaf a'i gadwodd allan o'r gêm, ac fe allai ymuno gyda'i gyd-Scarlet Scott Williams yn y canol.

Bydd Luke Charteris o Perpignan a Bradley Davies o'r Gleision yn ceisio ennill eu lle yn y pac, ac fe allai Ryan Jones fod ar gael eto wedi anaf i'w ysgwydd.

Carfan Cymru ar gyfer Cyfres yr Hydref:

Olwyr: L Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets); A Cuthbert (Gleision), G North (Scarlets), H Robinson (Gleision); A Beck (Gweilch), J Davies (Scarlets), J Roberts (Gleision), S Williams (Scarlets); D Biggar (Gweilch), J Hook (Perpignan), R Priestland (Scarlets); T Knoyle (Scarlets), M Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision).

Blaenwyr: S Andrews (Gleision), R Bevington (Ospreys), P James (Caerfaddon), A Jarvis (Gweilch), G Jenkins (Toulon), S Lee (Scarlets); R Hibbard (Gweilch), K Owens (Scarlets), M Rees (Scarlets); B Davies (Gleision), L Charteris (Perpignan), I Evans (Gweilch), AW Jones (Gweilch); T Faletau (Dreigiau), R Jones (Gweilch), R McCusker (Scarlets), A Shingler (Scarlets), J Tipuric (Gweilch), J Turnbull (Scarlets), S Warburton (Gleision, capten).

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.