BBC Cymru Fyw

Caerdydd 2-1 Hull

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionMark Hudson yn dathlu ar ôl sgorio ail gôl Caerdydd
Roedd goliau gan Heidar Helguson a Mark Hudson yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd dros Hull City.
Peniad dewr gan Helguson wedi 3 munud roddodd y dechrau delfrydol i'r tîm cartref wedi croesiad Craig Noone.
Gwastraffodd y cochion sawl cyfle i ymestyn y fantais cyn i Hudson selio'r fuddugoliaeth gyda pheniad wrth ddeifio i gwrdd â chroesiad Aron Gunnarsson wedi 82 munud.
Ym munud olaf y gêm cafodd Robert Koren gôl gysur i'r ymwelwyr.
Mae Caerdydd yn drydydd yn y tabl y tu ôl i Crystal Palace a Middlesbrough.