BBC Cymru Fyw

Southampton 1-1 Abertawe

Published
image copyrightPA
image captionRickie Lambert o Southampton yn cael y gorau ar Garry Monk
Camgymeriad gan amddiffynwr barodd i Abertawe ddod â rhediad o dair colled yn olynol oddi cartre i ben trwy achub pwynt yn Southampton.
Roedd Morgan Schneiderlin wedi rhoi'r Seintiau ar y blaen gyda pheniad wedi croesiad celfydd Rickie Lambert wedi 63 munud.
Ond daeth yr Elyrch yn gyfartal naw munud yn ddiweddarach pan fanteisiodd cyn-chwaraewr Southampton Nathan Dyer ar reolaeth gwael Maya Yoshida o'r bêl gan anelu'n llwyddiannus am gornel y rhwyd.
A bu bron i'r ymwelwyr gipio buddugoliaeth yn y munudau olaf, gyda Daniel Fox yn ymestyn i'r eithaf i arbed ymgais Itay Shechter.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn yr 11fed safle.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 2-1 Wigan