BBC Cymru Fyw

Cwpan LV: Gleision 22-17 Wasps

Published
Gleision 22-17 Wasps
Cafodd Y Gleision eu buddugoliaeth gyntaf mewn saith gêm wrth i gystadleuaeth rygbi Eingl Gymreig ddechrau am y tymor.
Roedd Y Gleision yn croesawu Wasps i Barc Yr Arfau yng Nghwpan LV nos Wener.
Daeth Ceri Sweeney ymlaen fel eilydd i gynorthwyo clwb y brifddinas yn eu buddugoliaeth yn erbyn clwb eu cyn-reolwr, Dai Young.
Dan Fish groesodd am gais cyntaf y tîm cartref cyn i Elliot Daly groesi ar gyfer unig gais yr ymwelwyr.
Cafodd yr ymwelwyr dair cic gosb cyn i bedwaredd gic lwyddiannus Tom Bell roi'r ymwelwyr ar y blaen, 17-10.
Ond wedi i Sweeney gymryd drosodd gan Gareth Davies wedi 55 munud fe aeth ati i greu cais i Tom James.
Aeth ati wedyn i roi mwy o bwyntiau i'r Gleision gyda'i gais a llwyddo i'w throsi a sicrhau'r fuddugoliaeth.