Pryder heddlu am ddyn 78 oed

Harry Spragg Image copyright Gwent Police
Image caption Does neb wedi gweld Harry Spragg ers amser cinio ddydd Iau

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod yn bryderus am ddyn oedrannus sydd wedi bod ar goll o'i gartref yn New Inn ger Pont-y-pŵl.

Y tro diwethaf i Harry Spragg, sy'n 78 oed, gael ei weld oedd amser cinio ddydd Iau.

Dywed yr heddlu eu bod yn bryderus amdano yn bennaf oherwydd ei oedran.

Cafodd ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua 5'9" o daldra. Mae ganddo lygaid gwyrdd a gwallt byr wedi britho, ac mae'n gwisgo sbectol.

Mae'n ddyn o gorff cadarn, ond mae ganddo wyneb gwelw sydd wedi ei eillio.

Y tro diwethaf iddo gael ei weld, roedd yn gwisgo cot wêr las tywyll, siwmper lwyd, trowsus llwyd, het a menig glas.

Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Mr Spragg i gysylltu â nhw yn syth drwy ffonio 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.