BBC Cymru Fyw

Ffordd ynghau wedi i lori droi drosodd

Published
image captionCafodd craen ei ddefnyddio i godi'r lori brynhawn dydd Iau

Mae rhan o'r A44 ger Aberystwyth wedi bod ynghau am bron i 24 awr wedi i lori droi drosodd.

Digwyddodd y ddamwain nos Fercher am 7:00pm ger Dyffryn Castell wedi i'r lori droi drosodd cyn gorwedd ar ei hochr mewn cae.

Ni chafodd y gyrrwr ei anafu.

Cafodd craen ei ddefnyddio i godi'r lori brynhawn dydd Iau a disgwylir i'r ffordd ail agor yn ddiweddarach nos Iau.

Dywedodd Cyngor Ceredigion fod traffig yn cael ei ddargyfeirio yn Nyffryn Castell ac yn ardal Lovesgrove ger Aberystwyth.

Straeon perthnasol

  • Cau lôn oherwydd nwy'n gollwng