BBC Cymru Fyw

Rhybudd wedi i eryr aur ddianc

Published
image captionGall adenydd eryr aur ymestyn ymhell dros chwe troedfedd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd i'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus wedi i eryr aur ddianc o adardy ym Mhontycymer ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Hedfanodd yr eryr benywaidd o'r fferm yn ystod nos Lun, Tachwedd 5, gyda'i hualau a lein yn dal yn sownd iddi.
Cafodd y cyhoedd gyngor i beidio mynd at yr aderyn, ond yn hytrach i ffonio'r heddlu ar 101 os fyddan nhw'n ei gweld hi.
Mae gan yr eryr led adenydd o 6'5" ac mae'n pwyso 16 pwys.
Dywedodd Swyddog Bywyd Gwyllt ac Amgylchedd o Heddlu De Cymru, Cwnstabl Mark Goulding: "Mae'r eryr aur yn frid caeth ac yn gyfarwydd â phobl, ond mae'n aderyn cryf a grymus iawn ac ni ddylai unrhyw un fynd ati.
"Pan ddihangodd yr aderyn roedd newydd gael ei bwydo, felly mae'n debyg y bydd ond yn dangos ei hun pan fydd wedi blino ac eisiau bwyd, ac fe all hynny gymryd hyd at 10 diwrnod.
"Byddwn yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac i gysylltu â ni os fyddan nhw'n gweld yr eryr.
"Er nad yw'r eryr yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd, peidiwch da chi a cheisio'i ddal.
"Dim ond pobl sy'n trin adar yn broffesiynol ddylai fynd at yr eryr."