Southport 1-4 Wrecsam

Southport 1-4 Wrecsam

Mae Wrecsam wedi codi i ail safle'r gynghrair ar ôl eu buddugoliaeth oddi cartref o 4-1 yn erbyn Southport.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi 37 munud wrth i Steven Tames sgorio o chwe llath.

Ond llai na 10 munud wedi cychwyn yr ail hanner roedd Southport i lawr i 10 dyn wedi i Godfrey Poku gael ei anfon oddi ar y cae am ail drosedd.

O fewn munud daeth Wrecsam yn gyfartal wrth i Jay Harris danio i ganol y gôl o du allan i'r blwch.

Wedi 77 munud fe wnaeth Chris Lynch rwydo i'w rwyd ei hun gan roi'r ymwelwyr ymhellach ar y blaen.

Daeth trydedd gôl i Wrecsam diolch i beniad Robert Ogleby deng munud cyn y chwiban olaf.

A phum munud yn ddiweddarach fe wnaeth Chris Westwood ganfod y rhwyd i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.CASNEWYDD 17 17 36
2.WRECSAM 16 14 32
3. Luton 17 7 32
4. Grimsby 18 11 30
5. Forest Green 17 10 30

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.