BBC Cymru Fyw

Pryder am 200 o swyddi yng Nghaerdydd

Published
Mae cwmni Inexus wedi cyhoeddi eu bod yn symud o Gaerdydd i Bury St Edmunds.
Ar hyn o bryd mae 200 yn cael eu eu cyflogi yn y pencadlys yng Nghaerdydd.
Dywedodd y cwmni sy'n darparu deunydd ar gyfer tai newydd eu bod yn ailstrwythuro ar ôl newid perchnogion - a chynnig i uno gyda chwmni GTC yn Bury St Edmunds.
Mae'r cwmni'n darparu deunyddiau ar gyfer y diwydiant tai ar hyd y DU.
Gallai'r uno gyda GTC ddod i rym rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2013.
Er gwaetha' diswyddiadau yng Nghaerdydd, ond mae'n bosib y bydd hyd at 60 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y cwmni.
Fe fydd gwaith Metropolitan Infrastructure y cwmni yn parhau yng Nghaerdydd.
Mae Inexus wedi rhoi gwybod i'w staff ac fe fydd proses ymgynghori yn cychwyn.