BBC Cymru Fyw

Milfeddyg: Agor a gohirio cwest

Published
image copyrightNorth Wales Police
image captionCafodd Catherine Gowing ei gweld yn gadael archfarchnad ar Hydref 12
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth y milfeddyg Catherine Gowing o'r Wyddgrug.
Dywedodd crwner dros dro gogledd ddwyrain Cymru John Gittins fod manylion achos marwolaeth wedi eu gohirio.
Cafodd y ddynes 37 oed ei gweld yn gadael archfarchnad Asda yn Queensferry tua 8:40pm ar Hydref 12.
Dywedodd yr heddlu ddydd Sul fod rhannau ei chorff wedi eu darganfod yn Sealand yn Sir y Fflint ddydd Mercher diwethaf.
Mae Clive Sharp, 46 oed o Fethesda, wedi ei gyhuddo o lofruddio a bydd o flaen llys yn Ionawr.

Straeon perthnasol

  • Milfeddyg: Cadarnhad o weddillion