BBC Cymru Fyw

Ryan Jones allan o gêm Ariannin

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionMae gobaith y bydd Ryan Jones ar gael i wynebu Samoa ymhen 11 diwrnod
Daeth ergyd arall i dîm rygbi Cymru cyn gemau rhyngwladol yr hydref gan na fydd Ryan Jones ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Mae blaenasgellwr y Gweilch wedi gadael gwersyll ymarfer Cymru yn Spala, Gwlad Pŵyl, ers diwedd yr wythnos ddiwethaf.
Daeth adref i gael sgan ar ei ysgwydd sydd wedi bod yn ei boeni ers wythnosau.
Ar ôl adolygu'r canlyniadau, penderfynodd tîm meddygol Cymru fod angen cyfnod pellach o orffwys ar Jones.
Wedi dweud hynny, mae disgwyl y bydd yn y garfan i wynebu Samoa ddydd Gwener, Tachwedd 16.
Bydd Rob Howley yn enwi'r tîm i wynebu Ariannin brynhawn Mawrth, Tachwedd 6, am 1:00pm.

Straeon perthnasol

  • Ryan Jones yn dychwelyd i Gymru i gael profion ar anaf