BBC Cymru Fyw

Bolton 2-1 Caerdydd

Published
image copyrightGetty Images
Bolton 2-1 Caerdydd
Er iddynt golli yn Bolton mae Caerdydd yn parhau ar frig y bencampwriaeth oherwydd gwahaniaeth goliau.
Ond mae'r canlyniad yn golygu fod Caerdydd wedi colli 3 allan o 4 o'u gemau diwethaf oddi cartref.
Caerdydd aeth ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf diolch i Craig Noone ar ôl i Bolton fethu clirio croesiad Peter Whittingham.
Daeth Bolton yn gyfartal gyda chic gosb Martin Petrov ar ôl i Bo-Kyung Kim droseddu yn erbyn David Ngog.
Yna sgoriodd Ngog i roi Bolton ar y blaen. Er I'r ymosodwr gael ei anfon o'r cae yn ddiweddarach fe fethodd Caerdydd a manteisio.

Straeon perthnasol

  • Caerdydd 2-1 Watford