BBC Cymru Fyw

Wrecsam 2-4 Alfreton

Published
image copyrightOther
Mae Wrecsam allan o gwpan yr FA ar ôl colli gartref i Alfreton 4-2.
Roedd Wrecsam, sy'n drydydd yng nghynghrair y Blue Square, heb eu hymosodwr Brett Ormerod ar gyfer y gêm yn erbyn y tîm sydd yn safle 16 yn yr un gynghrair.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl dim ond dau funud ar ôl trosedd gan Danny Meadows ar Danny Wright.
Sgoriodd Neil Ashton o'r smotyn.
Daeth Alfreton yn gyfartal, gydag ergyd Paul Clayton o fewn y blwch cosbi
Yn yr ail hanner cafodd Mayebi, golwr Wrecsam, ei anfon o'r maes, ar ôll trosedd yn erbyn Leigh Franks.
Yna aeth yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic o'r smotyn yn yr ail hanner.
Cafodd sgoriwr y gôl Dan Bradley ei anfon o'r maes ychydig yn ddiweddarach am ail drosedd.
Sgoriodd Ben Tomlinson i roi Alfreton 3-1 ar y blaen cyn i gol gan Danny Wright roi ychydig o obaith i Wrecsam.
Ond sgoriodd Tomlinson ei ail i sicrhau'r fuddugoliaeth cyn iddo yntau hefyd gael ei anfon o'r cae ar ol derbyn ei ail garden felen.
Wrecsam: Mayebi, Wright, Ashton, Westwood, Devine, Harris, Keates, Hunt, Cieslewicz, Wright, Morrell