BBC Cymru Fyw

Wyth ymgeisydd mewn isetholiad

Published
image copyrightSteve Duffy
image captionMae dros 98,000 o bobl yn byw yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth
Bydd enw wyth ymgeisydd ar y papur pleidleisio ar gyfer isetholiad seneddol De Caerdydd a Phenarth.
Daw'r isetholiad yn dilyn ymddiswyddiad yr AS Llafur Alun Michael, a fydd yn sefyll yn yr etholiad i ddewis Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.
Bydd y pleidleisio ar gyfer y ddau etholiad yn digwydd ar ddydd Iau, Tachwedd 15.
Caeodd y rhestr enwebiadau ar Hydref 31.
Yr wyth ymgeisydd yw :-
  • Stephen Doughty (Llafur)
  • Robert Griffiths (Comiwnydd)
  • Andrew Jordan (Llafur Sosialaidd)
  • Bablin Molik (Democrat Rhyddfyrdol)
  • Luke Nicholas (Plaid Cymru)
  • Anthony Slaughter (Y Blaid Werdd)
  • Craig Williams (Ceidwadwr)
  • Simon Zeigler (UKIP)
Bydd Mr Michael yn sefyll yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru ochr yn ochr â Michael Baker (Annibynnol), Caroline Jones (Ceidwadwr) a Tony Verderame (Annibynnol).

Straeon perthnasol

  • Cadarnhau dyddiad isetholiad De Caerdydd a Phenarth