BBC Cymru Fyw

Dau lofrudd yn colli heriau cyfreithiol yn y Llys Apêl

Published
image copyrightOther
image captionCafwyd John Cooper yn euog o ddwy lofruddiaeth ddwbl
Mae'r Llys Apêl wedi gwrthod cais gan y llofrudd John Cooper yn erbyn ei ddyfarniad.
Cafwyd Cooper, 66 oed o Dreletert, Sir Benfro yn euog o ddwy lofruddiaeth ddwbl chwarter canrif yn ôl.
Roedd wedi gwadu iddo lofruddio Richard a Helen Thomas yn Scoveston yn 1985 a Richard a Gwenda Dion ar lwybr yr arfordir bedair blynedd yn ddiweddarach.
Roedd wedi defnyddio gwn dwy faril i saethu'r pedwar.
Hefyd roedd yn euog o ymosod yn ddifrifol ar griw o bobl ifanc.
Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe ym mis Mai 2011.
John Pope
Fe wnaeth ei fargyfrethiwr, Mark Evans QC gais am yr hawl i apelio gerbron Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Judge, a dau farnwr arall, bythefnos yn ôl gan ddadlau nad oedd y barnwr yn yr achos gwreiddiol wedi rhoi'r cyfarwyddiadau cyfreithiol cywir wrth grynhoi'r achos.
image copyrightOther
image captionFe gafwyd Pope yn euog o lofruddio Karen Skipper yn Llys y Goron Casnewydd yn 2011
Hefyd ddydd Iau fe wrthodwyd apêl llofrudd arall.
Daethpwyd o hyd i gorff Karen Skipper o Gaerdydd yn yr Afon Elai ym 1996.
Yn 2009 fe gafwyd John Pope yn euog o'i llofruddio ond ym mis Rhagfyr yn 2010 cafodd y dyfarniad ei ddileu yn y Llys Apêl.
Fe gafwyd Pope yn euog o'r drosedd am eildro yn Llys y Goron Casnewydd yn 2011.

Straeon perthnasol

  • Achos Penfro: Cooper yn euog