Catherine Gowing: Ehangu'r chwilio am filfeddyg
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am y milfeddyg Catherine Gowing yn chwilio mewn sawl safle yn Sir y Fflint yn dilyn nifer fawr o alwadau gan y cyhoedd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod eu swyddogion yn ceisio sefydlu arwyddocâd y safleoedd.
Diflannodd Ms Gowing ar ddydd Gwener, Hydref 12, pan y gwelwyd yn gadael archfarchnad yn Queensferry.
Tan ddydd Mercher, mae'r chwilio wedi canolbwyntio ar safle hen chwarel yn Alltami lle daeth yr heddlu o hyd i'w char wedi ei losgi.
Dywedodd yr heddlu fod pabell o osodwyd yn Manor Lane yn Sealand yn "offer cyffredin" ac nad oedd fwy o wybodaeth ar gael.
Ddydd mawrth dywedodd Sarjant Neil Parks o Heddlu'r Gogledd: "Mae'n bwysig i ni beidio disgyn i'r fagl o chwilio er mwyn chwilio.
"Mae'n rhaid i'r chwilio fod ar sail gwybodaeth ddibynadwy, ac fe fydd y chwilio yn parhau tan i'r wybodaeth yna ddod i ben.
"Does dim byd wedi newid. Mae'r sylw yn parhau ar ddod o hyd i Catherine."
Mae Clive Sharp, 46 oed, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio Ms Gowing tan iddo ymddangos eto yn y llys ar Ionawr 7, 2013.
Straeon perthnasol
- 26 Hydref 2012
- 23 Hydref 2012
- 22 Hydref 2012
- 19 Hydref 2012
- 19 Hydref 2012