Taro a ffoi: Gadael yr ysbyty

Karina Menzies Image copyright South Wales Police
Image caption Bydd angladd Karina Menzies, 31, ar Dachwedd 9.

Mae'r holl bobl gafodd eu hanafu ar ôl cael eu taro gan fan yng Nghaerdydd bron i bythefnos yn ôl wedi gadael yr ysbyty.

Fe gafodd 13 o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru am driniaeth ar Hydref 19.

Bu farw Karina Menzies, 31 oed, yn y digwyddiad.

Mae Mathew Tvrdon, 31 oed, wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio, ceisio llofruddio, ymosod a gyrru'n beryglus.

Bydd angladd Ms Menzies yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener, Tachwedd 9.