Cerddwr wedi marw ar ôl cwympo oddi ar Gadair Idris

Cadair Idris Image copyright Dave Croker
Image caption Daethpwyd o hyd i gorff Mr Mitchell gan gerddwr ar Fehefin 12

Mae'n debygol bod dyn wedi marw ar fynydd yng Ngwynedd wedi iddo lithro a chwympo, clywodd cwest ddydd Mawrth.

Bu Wayne Mitchell, 40 oed, o Flaenau Ffestiniog ar goll am fis cyn i'w gorff gael ei ganfod mewn man anghysbell ar Gadair Idris.

Yn ôl patholegydd roedd Mr Mitchell, oedd wedi gwisgo'n addas ar gyfer dringo'r mynydd, wedi torri ei benglog ar ôl iddo ddisgyn.

Cofnododd y crwner, Dewi Pritchard-Jones, reithfarn o farwolaeth trwy ddamwain.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod Mr Mitchell yn aros ym maes gwersylla yn Nolgellau ym mis Mai eleni.

Daethpwyd o hyd i gorff Mr Mitchell gan gerddwr ar Fehefin 12.

Straeon perthnasol