BBC Cymru Fyw

Diffyg larymau carbon monocsid yn peryglu bywydau

Published
image copyrightPA
image captionRhaid i bob cartref newydd yng Ngogledd Iwerddon gael larwm o ddydd Mercher ymlaen
Mae ymchwil yn awgrymu bod dros 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru heb larwm carbon monocsid yn eu tai.
Daw'r ffigyrau diweddara wrth i Lywodraeth Gogledd Iwerddon gyhoeddi y bydd yn anghyfreithlon o Hydref 31 ymlaen i adeiladu tai newydd heb larwm o'r fath.
Yn ôl yr ymchwil gan yr Ymgyrch Carbon Monocsid Be Alarmed!, mae 85% o bobl Cymru yn ymwybodol y gallai'r nwy eu lladd.
Ond dim ond 50% sydd wedi gosod larwm arbennig yn eu tai.
Roedd 47% o'r rhai heb larwm yn credu ar gam y gall larwm tân eu rhybuddio rhag carbon monocsid.
Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan y cyflwynydd teledu, Kirstie Allsopp ac mae'r cwmnïau ynni hefyd yn gefnogol.
"Mae nifer wedi derbyn y neges fod carbon monocsid yn beryglus," meddai Ms Allsopp.
"Ond mae o'n frawychus i feddwl am bobl sydd ddim yn amddiffyn eu hunain, neu yn credu ar gam eu bod yn amddiffyn eu hunain."

Offer diffygiol

Nid oes gan y nwy liw, blas nag arogl.
Fel rheol mae'n ganlyniad i offer diffygiol megis boeler, tân nwy neu simnai heb ffliw ddigonol.
Mae'r Adran Iechyd yn amcangyfrif bod 50 o bobl yn marw a dros 4,000 yn cael eu niweidio oherwydd effeithiau carbon monocsid ym Mhrydain pob blwyddyn.
Un sy'n ymwybodol iawn o beryglon carbon monocsid yw Anne Mitchell o Gwmbrân a gallodd ei merch Alex, 14.
"Bu farw Alex o wenwyn gan garbon monocsid oherwydd nad oedd y tân nwy wedi ei osod yn gywir," meddai.
"Dyna ddiwrnod mwyaf ofnadwy fy mywyd a dwi ddim eisiau i neb arall orfod dioddef hynny.
"Mae'n gwbwl bosib atal hyn.
"Ond eto mae llawer gormod o bobl yn marw neu yn dioddef niwed pob blwyddyn."

Straeon perthnasol

  • Apêl mam gollodd ferch a gafodd ei gwenwyno gan nwy carbon monocsid