BBC Cymru Fyw

Tân Prestatyn: Cadw dynes yn y ddalfa

Published
image copyrightNorth Wales Police
image captionBu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed, ei mab 15 mis oed Charlie Timbrell, ei nith Skye, dwy oed, a'i nai Bailey Allen, pedair oed
Mae dynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio pedwar o bobl gan gynnwys tri o blant wedi tân mewn fflat ym Mhrestatyn wedi cael ei chadw yn y ddalfa.
Ymddangosodd Melanie Jane Smith, 42 oed, o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher drwy gyfrwng cyswllt fideo o'r carchar.
Mae hi wedi ei chyhuddo o bedwar achos o lofruddiaeth, un achos o gynnau tân gyda'r bwriad o beryglu bywyd, a bygwth achosi difrod troseddol.
Bu farw Lee-Anna Shiers, 20, ei mab 15 mis oed Charlie, ei nai Bailey, 4, a'i nith Skye, 2, yn y tân ym Maes y Groes ym Mhrestatyn ar 19 Hydref.
Ni wnaed cais am fechnïaeth ac mae Ms Smith wedi ei chadw yn y ddalfa tan fis Ionawr.
Bydd hi'n ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ar Ionawr 7 pan fydd hi'n gorfod cyflwyno ple.