BBC Cymru Fyw

Carchar am oes i lofrudd

Published
image copyrightGwent Police
image captionDywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent nad oedd yna unrhyw gymhelliad am yr ymosodiad
Yn Llys y Goron Casnewydd cafodd dyn ei garcharu am oes am lofruddio pobydd o wlad Pwyl ar ôl ei bwnio a'i gicio yn y ddinas.
Roedd Jerzy Dubiniec, 60 oed, newydd symud i Gymru rai wythnosau ynghynt pan ymosodwyd arno gan Gavin Mills, 25 oed.
Roedd y tad-cu, nad oedd yn gallu siarad Saesneg, yn dychwelyd adre o shifft nos pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron roedd hwn yn ymosodiad milain ar ddyn diniwed.
Fe wnaeth Mills newid ei ble i un o euog ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent nad oedd yna unrhyw gymhelliad am yr ymosodiad.