Canolfan awyr agored yn Eryri i gau

Neuadd Aberglaslyn Image copyright AP
Image caption Dywedodd Ffrindiau Aberglaslyn eu bod wedi eu siomi ac yn ddig am fod y cynllun busnes wedi ei wrthod

Mae cyngor sir yn Lloegr yn dweud y byddant yn cau canolfan gweithgareddau awyr agored i blant yn Eryri wedi'r cwbl.

Fe wnaeth Cyngor Sir Gaerlŷr benderfynu ym mis Ebrill eu bod am roi'r gorau i reoli Neuadd Aberglaslyn, ond yna dywedodd grŵp cymunedol fod ganddynt ddiddordeb yn y ganolfan ger Beddgelert.

Ond mae'r cyngor wedi penderfynu nad yw cynllun busnes gafodd ei gyflwyno gan y grŵp yn ddigonol a bydd y neuadd yn cau ym mis Awst 2013.

Bydd canolfan awyr agored arall mae'r cyngor sir yn berchen arni - Quorn Hall yn Sir Gaerlŷr - yn cau ym mis Rhagfyr.

Deiseb

Dywedodd grŵp Ffrindiau Aberglaslyn eu bod wedi eu siomi ac yn ddig am fod y cynllun busnes wedi ei wrthod.

Maent wedi dechrau deiseb ar-lein fydd yn cael ei hanfon at y Prif Weinidog, David Cameron.

Yn ôl y cyngor, roeddent yn bryderus ynglŷn â chostau staffio a'r gefnogaeth ariannol ar gyfer y cynllun.

Dywed y cyngor, sy'n berchen ar drydedd canolfan, y byddant yn cydweithio â'r staff i ystyried opsiynau diswyddo ac adleoli.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.