Edrych yn ôl ar ddyddiau cynnar S4C

Owen Edwards, Cyfarwyddwr cyntaf S4C
Image caption Owen Edwards wnaeth groesawu pawb i "aelwyd S4C" ar y noson gyntaf

Mae hi'n wythnos o ddathlu i S4C wrth iddi droi'n 30 ar ddydd Iau.

SuperTed oedd y rhaglen gyntaf i'w ddarlledu ar S4C, ac ar adegau yn ei hanes teimlir fel petai angen pwerau mawr y tedi-bêr i sicrhau goroesiad y sianel.

Annibyniaeth S4C, a'i hariannu, yw themâu sydd mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw pan ffurfiwyd y bedwaraedd gwasanaeth teledu i Gymru ym mis Tachwedd 1982.

Bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio i farwolaeth yw'r digwyddiad mwyaf cofiadwy o'r frwydr i lansio'r sianel.

Ond yn ôl rhai a weithiodd yn frwd er lles S4C, bu'r degawdau cyntaf yn llawn trafodaethau a chonsesiynau.

Cyn-gyfarwyddwr BBC Cymru, Geraint Stanley Jones, oedd Prif Weithredwr S4C o 1989 i 1994.

Wrth ddechrau gweithio i'r sianel Gymraeg, trafodaethau cyllidol oedd yn cymryd blaenoriaeth wrth iddo gyfarfod a'r Gweinidog Treftadaeth, David Mellor.

"Fe wnaed yn hollol amlwg i mi bod bwriad i newid dull ariannu S4C," meddai Mr Jones.

'Lled-braich'

"Cyn hynny daeth yr arian trwy'r Trysorlys, o gwmnïau teledu masnachol, ond roedden nhw'n anhapus gyda hyn.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Garry Owen yn holi Geraint Stanley Jones

"Wedi trafodaethau gyda David Mellor, yr unig ffordd ymlaen oedd yn bosib oedd bod S4C yn mynd i gael ei hariannu yn syth o'r Trysorlys.

"Roedd hynny yn rhoi pryder i mi, yn enwedig fel hen ddyn y BBC oedd wedi poeni erioed am bwysau gwleidyddol a masnachol.

"Roedd yr egwyddor o sefyllfa lled-braich yn bwysig iawn i mi."

Prin oedd yr opsiynau eraill, ac fe barhaodd y drefn ariannu hon am 20 mlynedd.

Dros y degawdau daeth newid aruthrol yn hinsawdd ddarlledu Prydain.

Daeth S4C yn sianel gwbl Gymraeg, wrth i ledaeniad teledu digidol ddod a'r diwedd i'r arfer o ddarlledu rhaglenni Saesneg o Channel 4 fel rhan o arlwy S4C.

Ond roedd lleoliad blaenllaw S4C ymysg arlwy teledu cartrefi Cymru wedi'i gwanedu gan yr argaeledd o sianeli digidol newydd.

Wrth geisio cadw gwylwyr a denu cenhedlaeth newydd i S4C, daeth problemau ymhlith rheolwyr y sianel i'r golwg.

Newidiadau

Ym mis Gorffennaf 2010 gadawodd Iona Jones ei swydd fel Prif Weithredwr S4C.

Yn yr un flwyddyn hefyd gadawodd cyfarwyddwr Awdurdod S4C, John Walter Jones, yn ogystal â'r Cyfarwyddwr Comisiynu, Rhian Gibson.

Image caption Roedd cartref cyntaf y sianel yng Nghlos Soffia, Caerdydd

Disgrifir y cyfnod fel "sgandal cyhoeddus" gan yr Arglwydd Elis-Thomas ar y pryd.

Brwydr gyhoeddus ddaeth nesaf i'r sianel - dros arian ac annibyniaeth.

Gyda Llywodraeth newydd yn San Steffan yn 2010, gofynnir i S4C dderbyn mai ar y BBC bydd rhaid dibynnu am ei chyllid yn y dyfodol.

Wedi misoedd o ymgyrchu gan rhai o gefnogwyr y sianel, a'r bygythiad gan Awdurdod S4C i ofyn am adolygiad barnwrol o'r penderfyniad, daeth derbyniad o'r trefniadau newydd.

O ganlyniad, bydd cyllid S4C yn dod o drwydded ddarlledu'r BBC o 2013 ymlaen, gyda'r cytundeb rhwng y ddau ddarlledwr yn nodi bydd anibynniaeth rheolaethol a golygyddol S4C yn parhau.

Serch hynny, nid diwedd y brwydrau cyhoeddus am arian ac annibyniaeth yw'r fargen hon.

Bydd hirhoedledd y cytundeb yn ddibynnol ar lwyddiant y BBC i ennill siarter newydd i ddarlledu yn 2016, gyda dadleuon ynglŷn â sleisen S4C o'r drwydded deledu yn sicr o godi yn ystod y trafodaethau.

  • Bydd rhaglen arbennig o Stiwdio am hanes S4C ar BBC Radio Cymru ddydd Iau am 2pm.