BBC Cymru Fyw

Etholiad: Ailgyfrif pledleisiau

Published
image captionDerbyniodd Allan Pennington (chwith) bleidleisiau a oedd i fod i Paul Penlington, yr ymgeisydd Llafur
Bydd etholwyr Prestatyn yn cael clywed ddydd Llun pwy yw un o'u cynghorwyr sir yn dilyn ailgyfrif yn yr Uchel Lys.
Cafodd y canlyniad gwreiddiol yn ward y gogledd ei ddileu oherwydd camgymeriad wrth gyfrif y pleidleisiau.
Ym mis Mai fe gyhoeddwyd fod y Ceidwadwr Allan Pennington wedi sicrhau 580 o bleidleisiau, gyda Paul Penlington o'r blaid Lafur yn sicrhau 366.
Llafur enillodd y ddwy sedd arall yn y ward.
Ond yn ddiweddarach daeth i'r amlwg fod rhai o bleidleisiau Mr Penlington wedi eu camgyfrif, a'u cyfrif fel pleidleisiau i Mr Pennington.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych mai camgymeriad dynol arweiniodd at y sefyllfa yn ward gogledd Prestatyn.
Cafodd yr ailgyfrif ei gynnal yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Straeon perthnasol

  • Cyngor: Camgyfri’ pleidleisiau