BBC Cymru Fyw

Cyhoeddi enw dynes 23 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gâr

Published
image captionCafodd y gwasanaethau brys eu galw i leoliad y ddamwain tua 11pm nos Wener
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r ddynes a fu farw mewn damwain yn Sir Gâr nos Wener.
Roedd Laura Rees yn 23 oed ac yn byw yn Sanclêr.
Roedd hi'n gyrru un o'r ddau gar a fu yn y ddamwain ar yr A40 rhwng Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 11pm nos Wener.
Aed a phedwar o bobl, gan gynnwys dau o blant, oedd yn teithio yn y car arall i Ysbyty Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin.
Credir nad ydi eu hanafiadau yn rhai difrifol.
Roedd Ms Rees yn teithio ar ei phen ei hun ar y pryd.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i gysylltu gydag Uned Plismona Ffyrdd Sir Gaerfyrddin ar 101.