BBC Cymru Fyw

Gyrrwr beic modur wedi ei ladd ar ôl gwrthdrawiad ger Clydach

Published
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain angeuol rhwng car a dau feic modur ger Clydach.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 12.35pm ddydd Sadwrn ar yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd ar gyrion y pentre.
Roedd car Peugeot 106 yn teithio i gyfeiriad Brynmawr a'r beic modur Yamaha a beic modur Brutale yn teithio i gyfeiriad Y Fenni.
Dywedodd yr heddlu bod un o yrwyr y beiciau modur wedi ei ladd yn y fan a'r lle.
Mae'r llall a gyrrwr y car wedi diodde' anafiadau difrifol.
Cafodd teithiwr yn y car fan anafiadau.
Aed â gyrrwr y car i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn ambiwlans awyr ac aeth y teithiwr a gyrrwr y beic modur i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Mae ffordd yr A465 rhwng cylchdro Gilwern a Brynmawr yn parhau ar gau.
Caiff traffig yn yr ardal ei ddargyfeirio.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw ar 101.