Caerdydd 4-0 Burnley
- Published
Caerdydd 4-0 Burnley
Mae Caerdydd yn ôl ar frig y Bencampwriaeth ar ôl ennill am y seithfed tro o'r bron gartref y tymor yma.
Dyma oedd buddugoliaeth mwya'r Adar Glas y tymor yma.
Joe Mason; Craig Noone; Matthew Connolly ac Aron Gunnarsson gafodd y goliau.
Wedi tri munud y sgoriodd Mason ar ôl i ergyd Noone ddod i'w lwybr ar ôl taro'r postyn pella.
Dyblodd Noone y fantais gydag ergyd o 25 llath cyn i'r bar rwystro ei drydedd ergyd.
Peniad oedd gôl Connolly gyn i Gunnarsson gwblhau'r sgorio.
Daeth y ddwy gôl olaf o fewn tair munud i'w gilydd yn 10 munud olaf y gêm.
Mae'r canlyniad yn rhoi arwydd clir o oruchafiaeth y tîm cartref.
Roedd Peter Whittingham yn allweddol yng nghanol y cae ac roedd perfformiad Kim Bo-Kyung wedi creu argraff, y gêm gyntaf iddo gychwyn y tymor yma.
Methodd Burnley, sydd heb reolwr, a sgorio ac ychydig iawn o fygwth Caerdydd wnaethon nhw yn ystod y gêm ac eithrio cyfnod byr iawn ar ddechrau'r ail hanner.
Straeon perthnasol
- Published
- 23 Hydref 2012
- Published
- 20 Hydref 2012
- Published
- 6 Hydref 2012