BBC Cymru Fyw

Casnewydd 2-3 Woking

Published
Casnewydd 2-3 Woking
Roedd dwy gôl yn hanner cyntaf y gêm gan Kevin Betsy i Woking yn drech na Chasnewydd.
Ond mae'r tîm o Gymru yn dal ar frig Uwchgynghrair Blue Square er gwaetha' colli o 2-3.
Daeth gôl gyntaf yr ymwelwyr wedi chwe munud cyn i Betsy ganfod cefn y rhwyd eto wedi 15 munud.
Roedd amddiffyn Casnewydd yn wan.
Fe wnaeth Danny Crow daro'r bar cyn i Andy Sandell ergydio o bell ar yr hanner i roi cyfle i'r tîm cartref.
Aeth yr ymwelwyr ymhellach ar y blaen wedi'r hanner gyda Bradley Bubb yn sgorio.
Daeth gôl gysur i Gasnewydd gan Mike Flynn wedi 89 munud.
Daw'r gêm ddyddiau wedi i Gasnewydd golli yn erbyn Yate yn y gêm ail chwarae pedwaredd rownd rhagbrofol Cwpan yr FA.