BBC Cymru Fyw

Damwain farwol yn Abertawe: Cyhoeddi enw

Published
image copyrightArall
image captionRoedd Christopher yn cefnogi'r Elyrch gydol ei oes
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 26 oed fu farw wedi i dacsi ei daro dros y penwythnos yn Abertawe.
Bu farw Christopher Ahearne o Mayhill yn y ddinas ddydd Llun wedi'r ddamwain yn Heol Caerfyrddin rhwng cylchfan Cwmbwrla a goleuadau traffig Dyfaty am 1am ddydd Sadwrn.
Dywedodd ei deulu fod Christopher yn edrych ymlaen at enedigaeth merch yn Rhagfyr.
Mae'r heddlu'n ceisio cael gwybodaeth am ei symudiadau a symudiadau tacsi Fiat Scudo du cyn y ddamwain.
Dywedodd ei deulu: "Roedd yn fab, brawd, partner a thad hyfryd.
"Drwy gydol ei oes roedd yn cefnogi'r Elyrch. Roedd yn dwlu ar bêl-droed a bydd colled fawr ar ei ôl."
Dylai tystion ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.