Parcio rhad 'i hybu'r stryd fawr'
- Cyhoeddwyd

Dylid cynnig parcio yn rhad ac am ddim er mwyn annog siopwyr i ganol trefi Cymru, medd y Ceidwadwyr.
Maen nhw am i gynghorau gyhoeddi cyfrifon blynyddol er mwyn gweld faint o elw sy'n cael ei wneud o daliadau parcio.
Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi argymell newidiadau i'r modd y mae trethi busnes yn cael eu gosod fel dull o hybu'r sector preifat.
Deellir y bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi strategaeth adfywio ddydd Llun fydd yn cynnwys canol trefi.
Cynorthwyo'r economi
Mewn dogfen bolisi am adfywio'r stryd fawr, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod parcio yn rhad ac am ddim yn un o brif atyniadau canolfannau siopa sydd y tu allan i'r dref.
Byddai caniatáu i bobl barcio yn rhad ac am ddim neu yn rhatach ar adegau penodol yn annog pobl yn ôl i ganol trefi, medd y blaid.
Dywedodd llefarydd nad oedd modd darparu costau ar gyfer y polisi, ond y byddai'r newid yn cynorthwyo'r economi drwy gynyddu'r nifer o bobl sy'n mynd i ganol trefi.
Roedden nhw hefyd yn annog cynnig bysiau am ddim o barciau busnes fel modd o ddenu pobl oddi yno i ganol trefi yn ystod eu hawr ginio.
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, galwodd Pwyllgor Menter y cynulliad am strategaeth genedlaethol, ac i adolygu polisïau cynllunio fel modd o adfywio'r stryd fawr.
Yn ferw o brysurdeb
Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Gweinidog Adfywio, Huw Lewis, bod Llywodraeth Cymru am wneud canol trefi yn ardaloedd oedd yn ferw o brysurdeb, ond bod angen iddynt arallgyfeirio gan nad oedd modd dibynnu'n llwyr ar fanwerthu.
Dywed y Ceidwadwyr y byddai eu siartr stryd fawr yn arwain busnesau a chynghorau ar sut i reoli canol trefi.
Fe wnaeth y blaid hefyd ailadrodd galwad i gynyddu'r lefel lle mae busnesau'n dechrau talu trethi busnes, ac yn addo ymgynghoriad i newid y modd y mae trethi busnes yn cael eu gosod i fusnesau bach.
Mae rhai cynghorau, gan gynnwys Casnewydd a Wrecsam, eisoes wedi cynnal treialon o barcio yn rhad ac am ddim i annog siopwyr i ymweld â chanol y dref neu ddinas.
Straeon perthnasol
- 18 Hydref 2012
- 5 Hydref 2012
- 12 Medi 2012