Port Talbot 1-1 Bangor

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Not Specified

Port Talbot 1-1 Bangor

Methiant oedd ymdrech Bangor i basio Prestatyn a chlosio at Y Seintiau Newydd ar frig y tabl wedi iddyn nhw ildio gôl hwyr unwaith eto.

Roedd y dinasyddion wedi mynd ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner - y cefnwr Chris Roberts oedd y sgoriwr annisgwyl.

Ond fel sydd wedi digwydd sawl tro'r tymor hwn eisoes fe ildion nhw gôl ddrud.

Lee John gafodd y gôl i Port Talbot i unioni'r sgôr wedi 83 o funudau, ac mae Bangor yn aros yn y pedwerydd safle ar wahaniaeth goliau.

Y Drenewydd 1-2 Caerfyrddin

Roedd y Drenewydd ar y blaen am gyfnod hir wrth groesawu Caerfyrddin.

Sgoriodd Nicky Ward wedi 36 munud i'r tîm cartref, ond fe sicrhaodd y Thomasiaid mai Caerfyrddin fyddai'n cipio'r pwyntiau.

Casey Thomas unionodd y sgôr wedi 70 munud i Gaerfyrddin, ac yna dri munud yn ddiweddarach, fe sgoriodd Danny Thomas i fynd â'r pwyntiau yn ôl i'r de-orllewin.

Aberystwyth 1-4 Seintiau Newydd (Nos Wener)

Fe wnaeth dwy gol yn y munud olaf gan Michael Wilde a Alex Darlington roi buddugoliaeth o 4-1 i'r Seintiau Newydd yn erbyn Aberystwyth. Ond fe wnaeth y tîm cartref frwydro'n galed am ran helaeth y gêm. Matty Collin gafodd gol Aberystwyth ar ôl i Sam Finley a Chris Seargeant roi'r Seintiau ar y blaen. Y tîm o'r canolbarth sydd nawr ar frig y tabl.

Airbus UK Brychdyn 5-0 Prestatyn (Nos Wener)

Fe wnaeth Prestatyn syrthio i'r ail safle ar ôl cael cweir oddi cartref gan eu gwrthwynebwyr lleol Airbus o 5-0.

Aeth Airbus ar y blaen ar ôl tri munud drwy Ian Kearney.

Ar ôl hynny roedd na goliau i Wayne Riley, Steve Tomassen, Jordan Johnson a Chris Budry. Cafodd Greg Stones gerdyn coch ar ôl 60 munud i goroni noson drychinebus i'r ymwelwyr.

Cei Cona 0-1 Bala (Nos Wener)

Sgoriodd Lee Hunt unig gol y gêm cyn yr egwyl i roi buddugoliaeth i'r Bala yn Cei Cona.

Llanelli 3-2 Lido Afan (Nos Wener)

Tarodd Llanelli yn ôl gyda thair gol yn y saith munud ola i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Lido Afan. Jason Bowen, Martin Rose a Luke Bowen yn sgorio i'r tîm cartref. Cyn hynny roedd Lee Hartshorn a Chris Hartland wedi rhoi Lido ar y blaen 2-0.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol