Cyhuddo dyn o lofruddio Catherine Gowing
- Published
Mae dyn 46 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio Catherine Gowing.
Bydd Clive Sharpe o Fethesda yn ymddangos gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Sadwrn am 10:00am.
Yn gynharach ddydd Gwener cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd sy'n chwilio am Ms Gowing, milfeddyg 37 oed, eu bod wedi dod o hyd i'w char ger hen chwarel yn ardal Alltami.
Cafodd Ms Gowing, sy'n hanu o Iwerddon yn wreiddiol ei gweld am y tro diwethaf mewn archfarchnad yn Sir y Fflint are nos Wener 12 Hydref.
Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd John Hanson ei fod yn parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Pinfold Lane y penwythnos diwethaf i gysylltu â'r heddlu ar 101 gydag unrhyw wybodaeth.
Mae teulu Ms Gowing yng ngogledd Cymru ac mae swyddogion arbenigol yr heddlu yn eu cefnogi a'u cwnsela.