Lluniau'n dangos hanes dociau Caerdydd a Phenarth

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunMae arddangosfa yn Neuadd y Ddinas Caerdydd wedi bod yn dangos hanes dociau Caerdydd a Phenarth mewn hen luniau. Mae'r llun yma'n dangos doc yng Nghaerdydd yn 1844.
disgrifiad o’r llunMae'r lluniau'n dangos sut y datblygodd y dociau i ddod o blith y mwyaf yn y byd. Mae'r llun yma'n dangos doc yng Nghaerdydd yn 1884.
disgrifiad o’r llunMae'r llun yma'n dangos pontŵn Mount Stuart, tua 1905.
disgrifiad o’r llunYn y 1900au cynnar roedd miloedd o longau'n dod i mewn i ddociau Caerdydd. Mae'r llun yma'n dangos atgyweiriadau i ddoc yng Nghaerdydd tua 1955.
disgrifiad o’r llunMae'r llun yma'n dangos car yn cael ei allforio i Awstralia yn 1955
disgrifiad o’r llunMae'r llun yma'n dangos bananas yn cael eu mewnforio o Kenya tua 1955
disgrifiad o’r llunMae'r arddangosfa'n gorffen am 6pm ddydd Gwener
disgrifiad o’r llunLlun diweddar o Fae Caerdydd wedi i'r hen dociau ddiflannu a'r ardal cael ei hail-ddatblygu. (Diolch i Associated British Ports am y lluniau).