Diffoddwyr yn taclo tanau ceir yn ardal Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n ymchwilio ar ôl i ddau gar gael eu darganfod ar dân yn Wrecsam nos Fawrth.
Cafodd diffoddwyr eu galw i stâd Pen y Cae tua 11.30pm.
Yn ôl y gwasanaeth tân mae sawl digwyddiad tebyg wedi bod yn yr ardal dros y misoedd diwethaf.
Ym mis Awst eleni lansiodd penaethiaid yr heddlu a diffoddwyr tân yn Wrecsam ymgyrch i ostwng y nifer o geir sy'n cael eu dwyn cyn cael eu rhoi ar dân yn yr ardal.
Erbyn mis Mawrth eleni, yn sir Wrecsam oedd hanner y ceir oedd wedi eu rhoi ar dân yng ngogledd Cymru.
Cafodd dros 170 o geir eu rhoi ar dân yn fwriadol yn y gogledd rhwng mis Mawrth 2011 a mis Mawrth 2012, gan gynnwys wyth achos yn Wrecsam mewn un wythnos.
Straeon perthnasol
- 23 Awst 2012
- 17 Ionawr 2012
- 7 Ebrill 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol