Cwpan Her Amlin: Wasps 38-25 Dreigiau Gwent

Roedd pedwar cais Wasps yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Her Amlin yn sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref wrth iddyn nhw groesawu Dreigiau Gwent i Barc Adams.
Roedd perfformiad y Cymro Nicky Robinson yn wych i'r tîm cartref.
Yr ymwelwyr aeth ar y blaen gyda chais gwych gan Adam Hughes cyn i Joe Dixon ychwanegu ail gais iddyn nhw.
Ond rhwng y ddau gais fe wnaeth Jack Wallace, Fabio Staibano, Billy Vunipola a Joe Simpson groesi i Wasps.
Ciciodd Robinson yn llwyddiannus dair o'r ceisiau a llwyddodd gyda phedair cic gosb.