Chwalfa i'r Scarlets yn Ffrainc
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n garnifal yn Ffrainc cyn y gêm ac yn ddathlu mawr wedyn wedi i Clermont Auvergne drechu'r Scarlets o 49-16 yng ngêm gyntaf Cwpan Heineken.
Jonathan Davies, cefnwr y Scarlets, oedd y cynta' i groesi'r llinell am gais.
Yn yr hanner cynta' roedd y cystadlu'n frwd cyn eiliad dyngedfennol pan gafodd Morgan Stoddart gerdyn coch wedi 37 munud.
O hynny ymlaen doedd dim modd atal y llif yn y Stade Marcel Michelin. Dim ond un tîm oedd ynddi a sgoriodd y Ffrancod chwe chais, gan gynnwys un y Cymro, Lee Byrne.
Roedd y chwalfa'n gyflawn cyn i'r Cymry gerdded yn drist ac yn dawel oddi ar y cae.
Clermont ar frig y grŵp gyda phum pwynt a'r Cymry ar y gwaelod gyda dim. Y Ffrancod yn geiliogod pen y domen.
Clermont Auvergne
Ceisiadau: Sivivatu, Byrne, cais cosb, Chouly, Bonnaire, Nalanga
Trosiadau: Parra 4, James
Ciciau cosb: Parra 3
Scarlets
Ceisiadau: J Davies
Trosiadau: Priestland
Ciciau cosb: Priestland 2
Cic adlam: Priestland