Medal aur i'r Gymraes Becky James a'i phartner Jess Varnish
- Cyhoeddwyd

Enillodd Becky James fedal aur ar y diwrnod cyntaf
Mae'r Gymraes Becky James a'i phartner Jess Varnish wedi ennill y fedal aur yn y ras wibio i dimau ar ddiwrnod agoriadol Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd yn Colombia.
Enillodd y ddwy gydag amser o 33.734 eiliad - dros eiliad a hanner yn gynt na Kayono Maeda a Hiroko Ishii o Japan.
Roedd y gystadleuaeth - y gyntaf yng nghyfres Cwpan y Byd - hefyd yn nod ymddangosiad cyntaf y tîm newydd Team SWI Welsh Cycling.
Enillodd Amy Roberts, Elinor Barker a Ciara Horne y fedal arian yn y ras ymlid i dimau.
Yr Eidal enillodd y gystadleuaeth honno.
Straeon perthnasol
- 27 Medi 2012
- 26 Medi 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol