Dedfrydu Alwen Jones llofrudd mam 31 oed o Benygroes

Alwen Jones Image copyright Viewfinder
Image caption Roedd Alwen Jones wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth ac o ddynladdiad

Bydd menyw 24 oed yn cael ei dedfrydu wedi i reithgor ei chael yn euog o lofruddio mam 31 oed.

Roedd Alwen Jones wedi gwadu llofruddio Emma Jones bythefnos cyn y Nadolig y llynedd ym Mhenygroes, Caernarfon.

Fe fydd hi'n cael ei dedfrydu am tua 10:30am fore Iau yn Llys y Goron Caernarfon.

Mae'r barnwr eisoes wedi dweud wrthi am ddisgwyl dedfryd o garchar am oes.

Image copyright Other
Image caption Clywodd y llys fod Emma Jones wedi marw bron yn syth wedi iddi gael ei thrywanu

Clywodd y llys bod Emma Jones wedi marw bron yn syth ar ôl i Alwen Jones ei thrywanu yn ei brest.

Roedd Emma Jones wedi mynd i ddadlau gyda chwaer Alwen Jones.

Doedd Alwen Jones ddim yn y parti mewn bloc o fflatiau ym Mhenygroes, ond pan glywodd am y ddadl, aeth draw yno o'i chartref gyda chyllell.

Ni ddangosodd Alwen Jones unrhyw emosiwn wrth i'r rheithgor gyhoeddi eu dyfarniad o euog.

Dywedodd y barnwr wrthi ei bod yn wynebu dedfryd o garchar am oes, ac mai'r unig gwestiwn ar ôl oedd beth fydd lleiafswm yr amser y bydd yn treulio o dan glo.

Straeon perthnasol