Enw ar Twitter: Arestio pump

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae'r heddlu wedi arestio pump wedi i enw menyw yr oedd y pêl-droediwr Ched Evans wedi ei threisio gael ei gyhoeddi ar wefan Twitter.

Y pump yw Gemma Thomas, 18 oed o'r Rhyl, Hollie Price, 25 oed o Brestatyn, a Shaun Littler, 22 oed, Paul Devine, 26 oed a Daniel Cardwell, 25 oed, y tri o Sheffield.

Byddan nhw ar fechnïaeth cyn ymddangos gerbron Ynadon Prestatyn ar Dachwedd 5.

Yn Ebrill cafodd cyn ymosodwr 23 oed Sheffield United a Chymru ei garcharu am bum mlynedd am dreisio'r fenyw 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol