Ad-drefnu addysg: Ysgol newydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd £1.2 miliwn ar gael at gost sefydlu ysgol ardal newydd yn Edeirnion yn ne Sir Ddinbych.
Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, ym mis Mai.
Mae'r cynllun yn golygu uno ysgolion cynradd Cynwyd a Llandrillo yn ardal Corwen.
Ar y cychwyn bydd yr ysgol newydd ar ddau safle, Ysgol Maes Hyfryd yng Nghynwyd ac Ysgol Llandrillo.
Wedyn bydd yn symud i Gynwyd wedi i welliannau i'r campws ddod i ben.
Cymraeg fydd iaith naturiol yr ysgol.
Daw arian y llywodraeth o gronfa £15 miliwn ar gyfer cynnal ysgolion yn y ganrif hon.
Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams, aelod cabinet gyda chyfrifoldeb am addysg, ei fod yn croesawu'r arian.
'Proses hir'
"Mi wnaethon ni ymgynghori'n eang o ran cynigion y rhan hon o Edeirnion ...
"Rydan ni'n cydnabod bod pryderon wedi eu mynegi yn lleol ac rydan ni wedi ceisio egluro ein sefyllfa.
"Mae hon wedi bod yn broses hir yn golygu nifer o gyfarfodydd gyda rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach."
"Fel rhan o'n hymroddiad mae'r cyngor wedi cytuno bod angen rhoi blaenoriaeth i foderneiddio darpariaeth addysg.
"Rydan ni'n cydnabod pa mor bwysig yw adeiladau ac adnoddau sy'n cwrdd ag anghenion y dyfodol."