Apêl am ddyn o Abertawe sydd heb ei weld ers pythefnos
- Cyhoeddwyd

Dydi Simon Cunnington ddim wedi ei weld ers pythefnos
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth gan y cyhoedd am leoliad dyn 28 oed o Abertawe.
Credir mai'r tro olaf y cafodd Simon Cunnington ei weld oedd yn Wye Close ym Monymaen am 5pm ddydd Mercher, Medi 26.
Mae ganddo gysylltiadau gyda chanol y ddinas a Teml y Ddinas yn ardal Stryd Dyfaty.
Dywedodd yr heddlu ei fod yn 5 troedfedd 7 modfedd o daldra ac yn denau.
Does 'na ddim manylion am ei ddillad ond roedd cap pêl-fasged ar ei ben.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol